Albania

Oddi ar Wicipedia
Albania
Republika e Shqipërisë
ArwyddairGo your own way! Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Hu-Albánia.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasTirana Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,793,592 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Tachwedd 1912 Edit this on Wikidata
AnthemHimni i Flamurit Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEdi Rama Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Albaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Ddwyrain Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd28,748 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Adria, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad Groeg, Gogledd Macedonia, Serbia, Montenegro, yr Undeb Ewropeaidd, Cosofo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41°N 20°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Albania Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Albania Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBajram Begaj Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Albania Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEdi Rama Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$17,931 million, $18,882 million Edit this on Wikidata
ArianLek Edit this on Wikidata
Canran y diwaith16 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.784 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.796 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Albania neu Albania. Y gwledydd cyfagos yw Montenegro yn y gogledd, Serbia yn y gogledd-ddwyrain, Gogledd Macedonia yn y dwyrain a Gwlad Groeg yn y de. Mae ar lân Môr Adria a Môr Ionia. Ei phrif borthladd yw Dürres. Adwaenir pobl Albania fel Albaniaid - nid i'w cymysgu ag Albanwyr, pobl yr Alban.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Albania yn un o wledydd y Balcanau. Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau "Gwlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd). Ceir coedwigoedd sylweddol. Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn.

Map o Albania

Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Tiranë (y brifddinas), Durrës (y prif borthladd), Shkodër, Shëngjin, Elbasan, Vlorë a Sarandë.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Durrës gan y Groegiaid mor bell yn ôl â'r 7fed ganrif CC.

Rhwng diwedd y 15fed a dechrau'r 20g bu Albania'n rhan o'r Ymerodraeth Ottoman.

Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddiannu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd troes Albania'n wlad gomiwnyddol yn 1946 dan arweinyddiaeth yr unben Enver Hoxha. Ar ôl cyfnod o fod yn gynghrair triw i Stalin, troes Albania i'r Tsieina Faoaidd o 1961 ymlaen.

Pobl a diwylliant[golygu | golygu cod]

Mae'r mwyafrif o'r Albaniaid yn perthyn i ddau grŵp ethnig, sef y Ghegiaid (i'r gogledd o Afon Shkumbi) a'r Tosgiaid (i'r de o'r afon honno); ychydig sy'n hysbys am eu gwreiddiau. Albaneg yw'r unig iaith swyddogol. Fel yn achos Cosofo dros y ffin, mae'r mwyafrif o'r dinesyddion yn Fwslemiaid.

Economi[golygu | golygu cod]

Mewn canlyniad i bolisi ynysigaeth llywodraeth y wlad yn y gorffennol, pan ddibynai Albania i raddau helaeth ar fasnach gyda Tsieina a Gogledd Corea, roedd economi'r wlad yn dlawd iawn mewn cymhariaeth â gweddill Ewrop. Erys Albania yn un o wledydd tlotaf Ewrop heddiw, er bod pethau wedi gwella'n sylweddol gyda chymorth gan Undeb Ewrop.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Prif ddinasoedd a threfi Albania yn ôl poblogaeth[golygu | golygu cod]

  1. Tiranë - 352,900
  2. Durrës - 113,800
  3. Elbasan - 96,800
  4. Shkodër - 85,800
  5. Vlorë - 84,400
  6. Korçë - 58,800
  7. Fier - 55,100
  8. Borshi - 9,500
  9. Kavajë - 40,000
  10. Lushnjë - 38,200
  11. Kavaja: 28.200
  12. Pogradeci: 23.700
  13. Laçi: 23.400
  14. Gjirokastra: 22.800
  15. Patosi: 21.000
  16. Kruja: 19.400
  17. Kuçova: 18.000
  18. Kukësi: 16.600
  19. Lezha: 16.600
  20. Saranda: 14.500
  21. Peshkopia: 14.100
  22. Burreli: 13.900
  23. Cërrik: 13.200
  24. Çorovoda: 13.200
  25. Shijak: 12.800
  26. Librazhdi: 11.500
  27. Tepelenë: 11.300
  28. Gramsh: 10.400
  29. Poliçan: 10.200
  30. Bulqizë: 10.000
  31. Përmet: 9.800
  32. Fushë-Krujë: 9.600
  33. Kamzë: 9.300
  34. Rrëshen: 9.200
  35. Ballsh: 9.100
  36. Mamurras: 7.600
  37. Bajram Curri: 7.500
  38. Ersekë: 7.500
  39. Peqin: 7.200
  40. Divjak: 7.069
  41. Selenicë: 6.900

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Amryw[golygu | golygu cod]

Gwefannau swyddogol y llywodraeth[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Albania
yn Wiciadur.