Croatia

Oddi ar Wicipedia
Croatia
Republika Hrvatska
ArwyddairLlawn bywyd Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, un o wledydd môr y canoldir, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasZagreb Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,871,833 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Mehefin 1991 Edit this on Wikidata
AnthemLijepa naša domovino Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndrej Plenković Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Croateg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Ddwyrain Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, post-Yugoslavia states, Schengen Area, Ardal yr ewro Edit this on Wikidata
Arwynebedd56,594 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Adria, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSlofenia, Hwngari, Serbia, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro, Liberland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.25°N 15.46667°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Croatia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Croatia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Croatia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethZoran Milanović Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Croatia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndrej Plenković Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$68,844 million, $70,965 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith17 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.46 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.858 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg: "Cymorth – Sain" Republika Hrvatska ). Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio â Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia-Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Croatia wedi ei lleoli yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop, yn ffinio gyda Hwngari i'r gogledd-ddwyrain, Serbia i'r dwyrain, Bosnia a Herzegovina i'r de-ddwyrain, Montenegro i'r de-ddwyrain, y Mor Adriatig i'r de-orllewin a Slofenia i'r gogledd-orllewin. Mae'n gorwedd yn bennaf rhwng lledredau 42° a 47° G a hydredau 13° a 20° Dn. Mae rhan o'r diriogaeth sydd bellaf i'r de sy'n amgylchynnu Dubrovnik yn allglofan ymarferol sy'n gysylltiedig â'r cyfandir gan stribyn byr o arfordir sy'n perthyn i Bosnia a Herzegovina o amgylch Neum.

Hanes[golygu | golygu cod]

Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula.

Cyrhaeddodd y Croatiaid (llwyth Slafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r 7c ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925.

Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Natsïaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd.

Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid.

Mae Croatia erbyn heddiw yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO, Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a'r Undeb Ewropeaidd.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae Croatia yn cynrychioli cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol. Mae wedi bod yn groesffordd i ddylanwadau diwylliannol y gorllewin a'r dwyrain ers i'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a'r Ymerodraeth Bysantaidd ymrannu - yn ogystal â diwylliannau Mitteleuropa a Môr y Canoldir.[240] Y mudiad Ilyraidd oedd y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes diwylliant y genedl, oherwydd i'r 19eg ganrif brofi'r allweddol i ryddhau'r iaith Croataidd a gweld datblygiadau nas gwelwyd eu math o'r blaen yn holl feysydd diwylliant a chelf.[43]

Economi[golygu | golygu cod]

Mae Croatia yn cael ei hystyried gan y Cenhedledd Unedig fel economi incwm uchel. Mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol (GDP) enwol Croatia yn $53.5 billion, neu $12,863 per capita yn 2017, tra bod paredd grym pwrcasu y Cynnyrch Mewnwladol yn $100 billion, neu $24,095 per capita. Yn ôl data Eurostat, roedd PPS GDP Croatia yn 61% o'r cyfartaledd Ewropeaidd yn 2012.

Roedd twf real y Cynnyrch Mewnwladol yn 2007 yn 6.0 y cant. 5,895 HRK y mis oedd cyfartaledd cyflog gweithiwr yng Nghroatia yn Ionawr 2017, a chyfartaledd cyflog crynswth oedd 7,911 HRK y mis.[155] Yn Chwefror 2017, roedd cyfradd ddiweithdra gofrestredig Croatia yn 15.3 y cant.

Eginyn erthygl sydd uchod am Croatia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato