Liechtenstein

Oddi ar Wicipedia
Liechtenstein
Fürstentum Liechtenstein
ArwyddairFür Gott, Fürst und Vaterland Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTeulu Tywysogaidd Liechtenstein Edit this on Wikidata
Pl-Lichtenstein.ogg, Lb-Liechtenstein.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Liechtenstein.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasVaduz Edit this on Wikidata
Poblogaeth37,922 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Gorffennaf 1806 Edit this on Wikidata
AnthemOben am jungen Rhein Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDaniel Risch Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCydffederasiwn yr Almaen, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd160 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhein Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaY Swistir, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.145°N 9.55389°E Edit this on Wikidata
Cod post9485–9498 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabined Liechtenstein Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholLandtag of Liechtenstein Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Tywysog Liechtenstein Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethHans-Adam II, Tywysog Liechtenstein Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Liechtenstein Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDaniel Risch Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$7,186 million Edit this on Wikidata
Arianfranc Swisaidd Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.45 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.935 Edit this on Wikidata

Gwlad fechan yng ngorllewin Ewrop rhwng y Swistir ac Awstria yw Tywysogaeth Liechtenstein neu Liechtenstein.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r mynyddoedd yn codi o Ddyffryn Rhein i uchderoedd o dros 2500m (8000').

Delwedd lloeren o Liechtenstein

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd y dywysogaeth ei ffurfio trwy uniad siroedd Vaduz a Schellenberg yn 1719. Bu'n rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig hyd 1806. Ffurfiodd y wlad undeb doll â'r Swistir yn 1923. Hyd at 1984 nid oedd gan ferched hawl i bleidleisio yn yr etholiad cenedlaethol.

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod]

Yr Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gatholigion a'r Eglwys Gatholig yw eglwys swyddogol y wlad.

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Fel yng Nghymru mae tîm pêl-droed mawr Liechtenstein; FC Vaduz, yn chwarae yn y wlad drws nesaf sef y Swistir. Ar y lefel rhyngwladol mae tîm Leichtenstein yn chwarae ym mhencampwriaethau Ewrop, a'r Byd. Ar ben hyn mae un tîm o Gwpan Liechtenstein yn cael mynediad i'r UEFA Europa League, ac hyd yn oed wedi curo tîm o Latfia yn y European Cup Winners' Cup ym 1996.

Yn rhyngwladol maen nhw wedi trechu: Portiwgal 2-2 yn 2004 Lwcsembwrg 4-0 yn 2006 Gwlad yr Ia 3-0 yn 2007. Latfia 1-0 yn 2008

Yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf enillodd y Leichtensteinwraig Hanni Wenzel Fedal Aur a Medal Arian ym 1980. Mae dinasyddion eraill o'r wlad hefyd wedi ennill medalau, er bod ei phoblogaeth tua 1% o boblogaeth Cymru.

Economi[golygu | golygu cod]

Er bod diwydiant ysgafn yn bwysig, twristiaeth yw un o brif ffynonellau incwm. Mae gwerthu stampiau hefyd yn bwysig i'r economi, on nid y o gymharu ag Arian. Mae diwydiant arian yn creu o leiaf 30% o drethi Leichtenstein. A chyda tua 73,700 o gwmniau yno mae mwy nag un cwmni i bob dinesydd. Ar ben hyn mae 'sefydliadau' neu Stiftungen cofrestredig yn Leichtenstein yn cadw arian a chyfoeth miloedd o dramorwyr di-breswyl yn saff rhag awdurdodau treth y byd. Treth uchaf i fusnesau fel hyn yw 20%, a chan fod angen aelod leol i bob cwmni mae cyfreithwyr masnachol y wlad yn elwa yn sylweddol.

  • Treth incwm yw 1.2%.
  • Treth leol bob comiwn yw 16.5%
  • Yswiriant Cenedlaethol 4.3%
  • Treth Etifeddu yn dechrau o 0.5%

O Awst 2009, mae llywodraeth Prydain wedi cytuno i rannu gwybodaeth ar y 5,000 o Brydeinwyr a'u £3biliwn mewn ymddiriedolaethau yn y wlad [1] yn ôl safle we y BBC.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]